Y GIG yn galw ar wleidyddion i gefnogi newid
Datganiad i'r Wasg - 20 Gorffenaf 2011
Wrth i filoedd o bobl ymgynnull yn Sioe Frenhinol Cymru yr wythnos hon, mae Conffederasiwn Gwasanaeth Iechyd Gwladol Cymru’n erfyn ar wleidyddion i gefnogi newid mewn gwasanaethau iechyd gwledig.
Mae Presgripsiwn ar gyfer Iechyd Gwledig 2011, sy’n cael ei lansio heddiw (dydd Mercher) gan Gonffederasiwn GIG Cymru, yn egluro pam fod newidiadau i wasanaethau iechyd yng Nghymru wledig yn ‘angenrheidiol ac yn anorfod’.
Mae Helen Birtwhistle, Cyfarwyddwr Conffederasiwn GIG Cymru, yn gofyn i wleidyddion ddefnyddio’u dylanwad helaeth yn eu cymunedau lleol i gefnogi newid lle mae’n amlwg y bydd mabwysiadu ffordd wahanol o wneud pethau o fudd i gleifion.
“Anaml iawn y mae newid, unrhyw newid o ran hynny, yn boblogaidd. Mae’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol yng Nghymru mewn cyfnod tyngedfennol ac mae angen i ni weld cefnogaeth gan bawb i ddatblygiadau gweddnewidiol nid dim ond mewn egwyddor, ond yn ymarferol.
“Mae sefydliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol mewn rhannau gwledig o Gymru eisoes wedi cyflwyno ffyrdd newydd ac arloesol o ddod â gofal yn nes at adref. Fodd bynnag, mae’n anochel y bydd angen gwneud rhai penderfyniadau anodd, a allai fod yn amhoblogaidd, o ran ble rydym yn darparu gwasanaethau arbenigol, mwy cymhleth.”
Dywed y Conffederasiwn fod newid yn hanfodol i alluogi’r GIG i wella ansawdd a diogelwch ei wasanaethau. Bydd hefyd yn ei gwneud yn bosib rhyddhau cyllid i’w ail-fuddsoddi mewn gofal am gleifion.
Meddai Ms Birtwhistle drachefn: “Mae’n rhaid i ni fwrw golwg fanwl iawn ar yr hyn y mae ein holl ysbytai yng Nghymru wledig yn ei ddarparu ac ystyried a ddylem drefnu gwasanaethau’n wahanol.
“Ni all y Gwasanaeth Iechyd Gwladol ddarparu pob math o wasanaeth gofal iechyd ym mhob ysbyty – yn syml, nid oes digon o weithwyr iechyd proffesiynol cymwys nac arian. Mae hefyd yn wir yng Nghymru wledig bod rhy ychydig o gleifion i allu rhedeg rhai gwasanaethau penodol yn ddiogel neu’n effeithiol.
“Pe baem yn ceisio cynnal pob gwasanaeth ym mhob ysbyty, y canlyniad fyddai bod ein staff a’n hadnoddau’n rhy wasgarog. A lle mae’r un gwasanaethau’n cael eu darparu ar draws nifer o safleoedd, gallai fod yn well canoli’r gwasanaethau hynny mewn canolfannau rhagoriaeth a fyddai’n llai niferus ond wedi’u hofferu’n llawn.
“Er y gall fod angen i rai cleifion deithio’n bellach i gael triniaeth arbenigol, fwy cymhleth, bydd y mwyafrif o’u gofal yn cael ei ddarparu’n llawer nes at adref.”
Mae Presgripsiwn ar gyfer Iechyd Gwledig 2011 yn nodi nifer o enghreifftiau lle mae’r gwasanaeth iechyd yn bod yn arloesol o ran y ffordd y mae’n dod â gofal yn nes at adref i bobl mewn cymunedau gwledig. Mae’r enghreifftiau’n amrywio o nyrsys yn cael hyfforddiant ychwanegol i drin cleifion mewn Unedau Mân Anafiadau, i ehangu gwasanaethau fferyllfeydd cymunedol, a thelefeddygaeth uwchdechnolegol sy’n golygu y gall arbenigedd ymgynghorydd arbenigol fod ar gael mewn meddygfeydd teulu.
Mae cyfleusterau symudol gan gynnwys sgrinio, triniaeth dialysis, gwiriadau deintyddol, a gwasanaethau diagnostig eraill yn profi’n boblogaidd gyda chleifion nad oes rhaid iddynt deithio dros bellter hir ar gyfer triniaethau cymharol syml. Ac mae gwasanaethau allgymorth, megis clinigau ategol i gleifion allanol a gynhelir gan ymgynghorwyr o ysbytai mwy, yn cael eu lletya mewn clinigau lleol ac ysbytai cymunedol.
Yn ogystal â hynny, mae cynlluniau sy’n cael eu rhedeg gan wirfoddolwyr a chynlluniau cymunedol yn galluogi pobl i barhau i fod yn annibynnol yn eu cartref eu hunain – mae un cynllun o’r fath ym Mhowys yn galluogi meddygon teulu i argymell cwmni a chymorth gwirfoddolwr i fonitro pobl oedrannus a’u helpu gyda gorchwylion syml, gan felly osgoi cael eu derbyn yn ddiangen i’r ysbyty.
Caiff nifer o’r prosiectau eu hariannu trwy Gronfa Arloesi Iechyd Gwledig y Llywodraeth.
“Er gwaethaf nifer o welliannau cadarnhaol mewn gofal iechyd lleol, gwledig, rydym yn cydnabod bod pobl yn amddiffynnol o wasanaethau traddodiadol, a’u bod yn arbennig o hoff o ysbytai lleol bychain sy’n annwyl gan lawer.
“Rydym yn deall y bydd nifer o bobl yn bryderus ynghylch newidiadau i’w gwasanaethau iechyd lleol ond rydym yn dymuno tawelu eu meddyliau y bydd unrhyw newidiadau arfaethedig yn rhai a fydd yn gwella iechyd pobl a dyfodol hirdymor gwasanaethau lleol.
“Ond ni all y Gwasanaeth Iechyd Gwladol wneud hyn ar ei ben ei hun. Mae gwleidyddion yn chwarae rhan eithriadol o bwysig wrth ein helpu i egluro’r angen am newid a chynyddu hyder y cyhoedd yn ein gwasanaethau cymunedol.
“Gwyddom fod gennym gyfrifoldeb i roi gwybodaeth gyson i gynrychiolwyr lleol am y datblygiadau diweddaraf ac rydym yn gweithio’n galed i sicrhau bod eu safbwyntiau hwy, a safbwyntiau’r cyhoedd, yn cael eu clywed.”